
Gwasanaeth Eiriolaeth Gwynedd ac Ynys Mon
Yng Ngwynedd ac Ynys Môn, rydym yn darparu gwasanaeth Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol, neu EBA (IPA yn Saesneg). Mae hyn yn golygu y gall unrhyw oedolyn sydd ag anghenion gofal cymdeithasol ddefnyddio ein gwasanaeth. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Efo pwy y gallwn ni weithio?
- pobl hŷn
- pobl anabl
- gofalwyr
- pobl efo problemau iechyd meddwl sy’n byw yn y gymuned
- pobl efo salwch tymor hir
- pobl efo anhawster dysgu
- pobl sydd yn methu cyfarwyddo Eiriolwr drostyn nhw eu hunain
- pobl sydd yn fregus am resymau eraill
- rhieni sy’n ymwneud â Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Gallwn weithio gydag unrhyw oedolyn sydd ag anghenion gofal cymdeithasol p’un a yw’r anghenion hynny’n cael eu diwallu ai peidio. Gallwch chi ffonio ni, neu anfonwch e-bost atom am fwy o wybodaeth neu os ydych am ganfod a allwn weithio gyda chi.
Pryd rydyn ni’n gallu gweithio efo rhywun??
Mae’r gwasanaeth eiriolaeth yma i gefnogi pobl sydd yn cael trafferth cael eu clywed gan wasanaethau, neu sy’n wynebu rhwystrau i fod yn rhan o’u:
- asesiadau gofa
- cynllunio gofal
- adolygiadau gofal
- proses ddiogelu
Pryd i ymgysylltu IPA
Mae llawer o wahanol ddewisiadau, newidiadau a phenderfyniadau yn effeithio ar drefniadau gofal pobl. Mae yna lawer o rwystrau a allai ei gwneud hi’n anodd i rywun fod yn rheoli eu bywyd, neu fod yn rhan o wneud penderfyniadau. Gallai fod person yn ei chael hi’n anodd deall gwybodaeth, neu nad yw person yn cael cyfle i ddweud beth maen nhw ei eisiau.
Sut gall Eiriolaeth helpu?
Gall Eiriolwyr gefnogi person i ddeall gwybodaeth ac opsiynau er mwyn i’r person allu gwneud dewisiadau sy’n dda iddyn nhw.
Gall Eiriolwyr gefnogi pobl i wneud yn siŵr bod y dewisiadau maen nhw’n eu gwneud yn cael eu clywed, a’u parchu, gan eraill.
Gal Eiriolwyr ddweud wrth bobl am eu hawliau a’r pethau y mae ganddyn nhw’r hawl iddyn nhw.
Gall Eiriolwyr fynd efo person i gyfarfod i’w helpu nhw i gymryd rhan. Neu fynd i gyfarfod yn lle person os nad ydyn nhw’n gallu mynd eu hunain.
Gall Eiriolwyr sefyll dros hawliau pobl sydd heb y galluedd i gymryd rhan drostyn nhw eu hunain.
Gall unrhyw un gyfeirio at ein gwasanaeth
Os oes angen eiriolwr arnoch, gallwch gysylltu efo ni eich hunan. Os oes angen eiriolwr ar rywun sy’n agos i chi, gallwch gysylltu efo ni. Neu mae’n bosibl i weithiwr proffesiynol gyfeirio rhywun at ein gwasanaeth.Dilynwch y ddolen hon i wneud cyfeiriad ar-lein. Neu ffoniwch ni, i ni gael trafod pethau efo chi, ar 01248670852 Yn GACGC, rydym bob amser yn gwneud yn siŵr bod y person sydd angen Eiriolwr yn gwybod am y cyfeiriad at ein gwasanaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Eiriolwr yn gweithio’n uniongyrchol efo’r person sydd angen cefnogaeth. Mae’r person yn dweud wrth yr Eiriolwr sut yr hoffen nhw gael eu cefnogi a pha ganlyniadau maen nhw eu heisiau. Mae’r Gwasanaeth Eiriolaeth am ddim os yw’r person yn cwrdd â’r meini prawf ar y dudalen hon. Mae GACGC hefyd yn cefnogi grwpiau Hunan-Eiriolaeth yng Ngwynedd ac Ynys Mon ar gyfer pobl sydd ag anawsterau dysgu. Dysgwch fwy am Grwpiau Hunan-Eiriolaeth yma.
NWAAA
14a Llys Onnen, Parc Menai, Bangor, LL57 4DF
www.nwaaa.wales
Tel: 01248 670852
Email: enquiry@nwaaa.co.uk
Friends of NWAAA
**Note that there is no drop-in facility at the office**
Find out what we do
Nwaaa passionately believes in enabling people to overcome problems and make informed choices that will improve their lives. We aim to work with people before a situation becomes a crisis, and we aim to work in a way that supports independence and participation. This is called empowerment.
Nwaaa values diversity and difference and will work hard with or on behalf a person who be-lieves they are being excluded or disadvantaged because of who they are. This means we fight for equal opportu-nities and human rights.


